
Pam ymuno gyda cffi ynys Môn?
O greu ffrindiau oes, i ddarganfod sgil nad oeddech hyd yn oed yn gwybod oedd gennych, mae llawer mwy i Ffermwyr Ifanc Môn na dim ond welis a barnu stoc! Mae Ffermwyr Ifanc Môn yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddatblygu, dysgu a mwynhau eu hunain drwy gynnig rhaglen amrywiol, hwyliog ac addysgol o weithgareddau, wedi’u cynllunio gan yr aelodau, ar gyfer yr aelodau. O farnu stoc i actio, chwaraeon i grefftau llaw, mae Ffermwyr Ifanc Môn yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a chystadlaethau sy’n addas i bawb. Cofiwch, does dim rhaid i chi fod yn ffermwr i ymuno! Rydym yn sefydliad ieuenctid cynhwysol ac agored ac yn annog pob person ifanc i ddod yn aelod.

1.
Darganfod sgiliau newydd
2.
creu ffrindiau newydd am oes


3.
Magu hyder a datblygu fel unigolyn
4.
Rhoi cynnig ar bethau newydd – o odro buwch i actio neu farnu stoc


5.
Cadw'n heini gyda nosweithiau chwaraeon amrywiol
6.
Cyfle i gymdeithasu ar nosweithiau allan


7.
Teithiau lleol amrywiol ar gael drwy gydol y flwyddyn
8.
Cyfleoedd gwych i gefnogi’ch gyrfa yn y dyfodol


9.
Dysgu cymraeg? cyfle gwych i chi ymarfer gyda ni
10.
Cyfle arbennig i fynd ar deithiau tramor

